Strategaeth Faethiad i Gymru : Y Gweithgor Gweithredu a Monitro
Friday 19 December 2003
Cylch gorchwyl drafft
Swyddogaeth y Gweithgor Gweithredu a Monitro yw cynnig cyngor neu wybodaeth i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phwyllgor Ymgynghorol Bwyd Cymru ar faterion yn ymwneud â ‘Bwyd a Lles’. Dyma swyddogaethau’r grŵp:
1. Gweithredu fel corff ymgynghori eang sy’n gwerthuso effaith a datblygiad y strategaeth a chynghori fel y bo’n briodol ar yr agweddau hyn ar Strategaethau Iechyd Lleol, Gofal Cymdeithasol a Lles, ac unrhyw strategaethau cyffelyb eraill ar lefel gymunedol.
2. Nodi dulliau priodol o fonitro cynnydd yn erbyn cerrig milltir a thargedau penodol sydd wedi eu cynnwys yn y strategaeth, a chynnig mesurau ychwanegol lle bo hynny’n briodol.
3. Darparu gwybodaeth i raglenni monitro ac arolygu lleol a chenedlaethol i sicrhau eu bod yn darparu data perthnasol.
4. Adolygu a choladu data arolygon a rhaglenni monitro ar ddiet a statws iechyd yn gyson.
5. Sicrhau bod y prosiectau a’r gweithgareddau a ddaw o’r strategaeth faethiad yn seiliedig ar dystiolaeth ac mai sicrhau canlyniadau yw eu nod.
6. Cynnig cyfarwyddyd ar fethodoleg ar gyfer gwerthuso effaith ymyriadau o ganlyniad i’r strategaeth.
7. Adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau, ymyriadau a deddfwriaeth, a’u defnyddio i gynllunio gweithredu yn y dyfodol.
8. Nodi ymyriadau effeithiol wedi eu gwerthuso’n gywir, gan fanteisio ar brofiad gwledydd eraill yn ôl y gofyn gyda’r nod o ledaenu arfer da.
9. Ymchwilio i ffyrdd o gael rhanddeiliaid i gyfrannu at y broses werthuso er mwyn ystyried eu barn, a chynhyrchu adroddiad blynyddol i’w hysbysu ynglŷn â chynnydd.
