Cyfarwyddwr Newydd I'r Asiantaeth Safonau Bwyd Yng Nghymru
Wednesday 24 October 2007
Ref: WA45/07
Ar ôl cystadleuaeth agored, o dan gadeiryddiaeth un o Gomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil, mae Steve Wearne wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (yr ASB) yng Nghymru. Mae’n olynnu Joy Whinney, sydd wedi rhoi'r gorau i'r swydd er mwyn cymryd seibiant gyrfa.
Wedi cyfnod o ymchwil ôl-radd, ymunodd Steve â'r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ym 1990 fel Swyddog Gwyddonol Uwch. Fe'i dyrchafwyd yn fuan iawn yn Uwch Swyddog Gwyddonol ac yna'n Bennaeth Cangen (lefel Gradd 7) ym 1997. Aeth yn ei flaen i drosglwyddo i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar y dechrau, ef oedd Pennaeth y Swyddfa Breifat. Yn wir, Steve oedd yr Ysgrifennydd Preifat cyntaf i Gadeirydd cyntaf yr ASB (Syr John Krebs, neu'r Arglwydd Krebs erbyn hyn).
Dyrchafwyd Steve i'r Uwch Wasanaeth Sifil ym mis Medi 2001 fel Pennaeth yr Is-adran Halogion Cemegol a Phorthiant Anifeiliaid. Bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Interim Cymru yng Nghaerdydd am rhyw 15 mis o fis Gorffennaf 2003 cyn dychwelyd i Lundain fel Pennaeth yr Is-adran Rheoleiddio, Rhyngwladol a Thryloywder lle bu'n gweithio tan nawr.
Wrth drafod ei benodiad, meddai Steve: 'Rwyf i wrth fy modd yn cael dychwelyd i Gymru i fod yn bennaeth ar weithrediadau yr ASB yno. Rwy'n edrych ymlaen at gael cydweithio â'n holl randdeiliaid yn y wlad er mwyn cynnig gwell lefel o ddiogelwch bwyd ac i roi cyfle i ddefnyddwyr Cymru wneud dewisiadau hyddysg am fwyd.'
Room 245 Aviation House,
125 Kingsway,
London WC2B 6NH
Telephone: 020 7276 8888
Out of hours duty pager: 07623 978344
Fax: 020 7276 8833
Email: press.mailbox@foodstandards.gsi.gov.uk
