Gweithredu I Gael Gwared Ar Lliw Anghyfreithlon A Ganfuwyd Mewn Bwydydd Ar Werth Yn Y Du
Monday 21 February 2005
Ref: 2005/0559
Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori pobl i beidio â bwyta bwydydd sydd wedi'u halogi'n anfwriadol â'r lliw anghyfreithlon, Sudan I.
Roedd y lliw hwn mewn swp o bowdr chilli a ddefnyddiwyd gan Premier Foods i wneud saws Caerwrangon, ac a ddefnyddiwyd wedi hynny fel cynhwysyn mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion.
Mae'r Asiantaeth yn gweithio gyda'r diwydiant ac awdurdodau lleol i sicrhau bod unrhyw fwydydd yr effeithir arnynt sydd ar ôl yn cael eu tynnu oddi ar y silffoedd. Darperir rhestr o'r bwydydd yr effeithir arnynt yn www.food.gov.uk/sudanlist a bydd yn cael ei diweddaru wrth i wybodaeth bellach ddod i law. Cynghorir pobl sydd ag unrhyw rai o'r bwydydd hyn gartref i beidio â'u bwyta ac i gysylltu â'r siop lle cawsant eu prynu i gael ad-daliad.
Meddai Dr Jon Bell, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
'Gallai Sudan I gyfrannu at risg gynyddol o ganser. Fodd bynnag, mae'n debygol mai risg fach iawn y bydd y lefelau sy'n bodoli yn ei achosi ond mae'n ddoeth peidio â bwyta mwy ohonynt. Nid oes risg o salwch yn syth.
'Mae'r Asiantaeth yn gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod unrhyw gynhyrchion yr effeithir arnynt sydd ar ôl yn cael eu tynnu oddi ar y silffoedd ar unwaith. Oherwydd bod y saws Caerwrangon hwn yn cael ei ddefnyddio'n aml i roi blas ar fwydydd eraill, efallai y byddwn yn dod o hyd i gynhyrchion eraill yr effeithir arnynt. Byddwn yn parhau i weithredu i gael gwared ar y rhain a lleihau'r risg i gwsmeriaid.'
Mae'r bwydydd, sy'n cynnwys cawliau, sawsiau a phrydau parod, wedi'u dosbarthu'n eang. Rydym yn gwybod bod o leiaf 350 o gynhyrchion bwyd wedi'u heffeithio eisoes. Mae'r cwmnïau sydd â bwydydd ar y rhestr yn cydweithredu â'r Asiantaeth i sicrhau bod y cynhyrchion yn cael eu tynnu oddi ar y silffoedd.
Lliw yw Sudan I na ddylid ei ychwanegu at fwyd ac mae wedi'i wahardd yn y DU a ledled yr UE. Ers Gorffennaf 2003, mae'n rhaid i'r holl bowdr chilli a fewnforir i'r DU gael ei ardystio i beidio â chynnwys Sudan I. Mae'r ASB ac awdurdodau lleol yn hapsamplu mwy na 1000 llwyth o bowdr chilli a fewnforir bob blwyddyn. Fodd bynnag, cynhyrchwyd y powdr chilli dan sylw cyn y rhaglen samplu a daeth i'r golwg ar ôl samplu'r saws Caerwrangon a gynhyrchwyd gan Premier Foods ac a allforiwyd i'r Eidal.
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
