Y Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990: Canllaw i Fusnesau Bwyd
Tuesday 15 April 2008
Mae'r Asiantaeth yn ceisio barn a sylwadau ar ddrafft newydd o Nodiadau Cyfarwyddyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Bill Drennan
Food Law Policy Branch
Food Standards Agency
Room 115B, Aviation House
125 Kingsway
London WC2B 6NH
Ffôn: 020 7276 8138
Ffacs: 020 7276 8193
E-bost: guidance@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 7 Gorffennaf
Manylion yr ymgynghoriad
Mae'r Asiantaeth wedi ysgrifennu nodiadau cyfarwyddyd newydd i gydymffurfio â Deddf Diogelwch Bwyd 1990. Mae'r canllaw yn darparu cyngor ar gyfer busnesau bwyd ar ofynion Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn diweddaru'r fersiwn flaenorol "Food Safety Act 1990 and You" a gyhoeddwyd gan MAFF. Mae'r canllaw canlynol yn rhoi ystyriaeth i ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 a'r Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 i ganiatáu ar gyfer gofynion Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002 a hefyd diwygiadau yn sgîl Rheoliadau Hylendid Bwyd 2006. Anfonir canllaw ar wahân yn fuan i randdeiliaid yng Ngogledd Iwerddon ar Orchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991.
Yn benodol, byddwn yn croesawu eich barn ar:
- gynnwys a ffurf y canllawiau.
- cynllun y canllawiau.
- eglurder y canllawiau
- a oes angen canllawiau symlach ar gyfer busnesau bach neu ar gyfer sectorau busnes penodol ac os felly, ar ba ffurf y dylai'r canllawiau hynny fod.
Mae Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn Ddeddf bwysig ym Mhrydain, a oedd yn diweddaru'r gyfraith flaenorol ar ddiogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr. Mae cyfraith ar wahân ond tebyg yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Cyhoeddwyd canllaw "Food Safety Act 1990 and You" yn ymdrin â'r ddau ddarn o ddeddfwriaeth am y tro cyntaf yn 1990, ynghyd â dau ganllaw sector ar gyfer ffermwyr a thyfwyr ac ar gyfer arlwywyr a'u cyflogeion. Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig yn 1996 (ailargraffwyd yn 1997 a 1998), heb y canllawiau sector.
Cyflwynodd Rheoliad (CE) 178/2002 (Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol) ofynion newydd sy'n uniongyrchol gymwys i fusnesau bwyd yn 2005, gyda'r nod o wella diogelwch bwyd ledled yr Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, roedd angen cyflwyno pwerau a chosbau gorfodi newydd mewn perthynas â'r gofynion newydd hyn, yr oedd rhai ohonynt yn debyg i'r darpariaethau presennol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990. Gwnaeth Rheoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 ddiwygiadau i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i osgoi unrhyw ddyblygu neu wrthdaro â'r gofynion newydd.
Mae'r canllaw presennol hwn yn ystyried y diwygiadau a wnaed i'r Ddeddf gan y ddeddfwriaeth newydd hon (uchod). Nid yw'n ymdrin â hylendid bwyd, sydd bellach yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth a chanllawiau ategol ar wahân yn dilyn deddfwriaeth ddiweddar. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Nodiadau Cyfarwyddyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar Reoliad (CE) 178/2002, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2007.
Ni ddylai fod unrhyw oblygiadau o ran cost i fersiwn newydd "Food Safety Act 1990 and You" sy'n rhoi arweiniad ar y gyfraith ac nid ar arfer da, heblaw am ddarllen y ddogfen. Yn unol â hynny ni chyhoeddwyd unrhyw Asesiad Effaith. Fodd bynnag, os ydych o'r farn bod costau ychwanegol nad ydym wedi'u hystyried ar gyfer busnesau, byddem yn ddiolchgar pe baech yn gallu gwneud sylwadau ar hynny.
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio Holiadur Adborth yr Ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd modd i'r cyhoedd weld yr ymatebion ar gais. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Os nad ydych am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech gwblhau'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Dylech nodi ei bod yn bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn eich ymateb yn cael ei chyhoeddi neu ei datgelu dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Os ydych o'r farn na ddylid datgelu peth o'r wybodaeth a ddarparwyd yn eich ymateb, dylech nodi'r wybodaeth dan sylw, gofyn am beidio â'i datgelu ac egluro pa niwed posibl a all ddeillio o'i datgelu yn eich barn chi.
Os na fyddwch yn gwneud cais am gadw eich ymateb yn gyfrinachol gydag esboniad ym mhrif destun eich ymateb, ni fyddwn yn ystyried unrhyw wadiad cyfrinachedd gan system TG eich sefydliad.
Data protection form (Word)
Data protection form (pdf)
Fersiwn Gymraeg
Bydd fersiwn Gymraeg o'r Canllaw i Fusnesau Bwyd ar gael ddydd Llun 21 Ebrill:
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Chris Harvey, Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB ar 020 7276 8630.
E-bost: chris.harvey@foodstandards.gsi.gov.uk
