Adolygu'r Rheol Dros Dri Deg Mis: Ymgynghoriad
Thursday 3 April 2003
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn adolygu'r Rheol Dros Dri Deg Mis (OTM) sydd yn ôl cyfraith y DU, yn atal y rhan fwyaf o wartheg dros dri deg mis rhag cael eu lladd ar gyfer bwyd.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
David Carruthers
OTM Rule Review UK Project Manager
Food Standards Agency
Room 307C, Aviation House,
125 Kingsway
Llundain
WC2B 6NH
Ffôn: 020 7276 8305
Ffacs: 020 7276 8308
E-bost: david.carruthers@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 20 Meh 2003
Manylion yr ymgynghoriad
Dyma un o dri o'r mesurau rheoli BSE sydd wedi'u cyflwyno a'u cryfhau ers diwedd yr 1980au i helpu i ddiogelu pobl rhag BSE. Y mesurau eraill yw'r mesurau rheoli Deunydd Risg Penodedig (SRM) a'r gwaharddiad ar gynnwys cig a blawd esgyrn mamalaidd mewn porthiant i dda byw wedi'u hamaethu.
Fel rhan o'r broses adolygu, darparwyd cyngor gwyddonol gan grŵp asesu risg ar y cyd o'r ASB/SEAC ar y peryglon i ddefnyddwyr yn sgil gwartheg OTM dan amrywiol ddewisiadau ar gyfer newid y rheol. Ystyriodd Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd y mesurau sy'n angenrheidiol i reoli'r peryglon hynny a disodli'r rheol OTM gyda phrofion BSE, gan ystyried y goblygiadau cyfreithiol ac ymarferol a'r costau. Mae eu canfyddiadau a'u hargymhellion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad amgaeëdig. Rwyf hefyd yn amgâu Asesiad Rhannol o Effaith Rheoliadau.
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd modd i'r cyhoedd weld yr ymatebion ar gais. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Os nad ydych am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech gwblhau'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Dylech nodi ei bod yn bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn eich ymateb yn cael ei chyhoeddi neu ei datgelu dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Os ydych o'r farn na ddylid datgelu peth o'r wybodaeth a ddarparwyd yn eich ymateb, dylech nodi'r wybodaeth dan sylw, gofyn am beidio â'i datgelu ac egluro pa niwed posibl a all ddeillio o'i datgelu yn eich barn chi.
Os na fyddwch yn gwneud cais am gadw eich ymateb yn gyfrinachol gydag esboniad ym mhrif destun eich ymateb, ni fyddwn yn ystyried unrhyw wadiad cyfrinachedd gan system TG eich sefydliad.
Data protection form (Word)
Data protection form (pdf)
Mae cyfiawnhâd dros newid o'r rheol OTM
1. Tra'n cadw mewn cof yr ansicrwydd sylweddol sy'n parhau ynghylch BSE, daeth y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd i'r casgliad canlynol (paragraffau 47 i 50):
- nododd y canlyniadau i'r dadansoddiad risg fod y budd ychwanegol i iechyd y cyhoedd a geir o'r rheol OTM yn fychan;
- bod costau cynnal y Cynllun OTM a'r rheol OTM yn fawr; a
- bod parhau â'r rheol fel ag y mae yn anghymesur i'r lefel o ddiogelwch i iechyd y cyhoedd ac y gellir cyfiawnhau mynd ati i ddisodli'r rheol trwy gynnal profion ar wartheg OTM.
Ydych chi'n cytuno â'r casgliad hwn?
Y dewis
2. Cytunodd y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd y dylid ystyried dau ddewis gwahanol i'r rheol OTM (paragraff 85)
- Caniatáu i wartheg sy'n cael eu geni ar ôl 1 Awst 1996 gael mynediad i'r cyflenwad bwyd ; neu
- Caniatáu i wartheg o unrhyw oed gael mynediad i'r cyflenwad bwyd.
Pa un o'r dewisiadau hyn sydd orau gennych? Pam?
NODER: Mae rheolau ledled yr UE yn ei gwneud yn ofynnol cael canlyniad negyddol i brawf BSE ac i'r asgwrn cefn gael ei dynnu o wartheg OTM a leddir ar gyfer eu bwyta gan bobl cyn bod y carcas yn cael ei ryddhau i'r cyflenwad bwyd.
Gorfodaeth
3. Ystyriodd y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd y dylid cael mesurau diogelwch i sicrhau bod y drefn newydd yn cael ei gorfodi'n effeithiol (paragraffau 63 i 64). Roeddent yn cynnwys
- Os byddai opsiwn dyddiad yn cael ei ddewis, yna byddai'n rhaid sicrhau bod camau ar waith i gadarnhau'r systemau dosbarthu tagiau clust ac olrhain gwartheg (yn enwedig ym Mhrydain) i leihau camgymeriadau a thwyll;
- Dylid parhau i archwilio dannedd i sicrhau bod gofynion y profion BSE a thynnu'r asgwrn cefn yn cael eu cyflawni gyda'r holl wartheg OTM.
Ydych chi'n cytuno? Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynglŷn â'r mesurau hyn?
Gweithredu
4. Argymhellodd y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd nifer o amodau ar weithredu amrywiadau i'r rheol OTM (paragraffau 70 i 72 a 77). Roeddent yn cynnwys
- Trefniadau amlwg ar gyfer profion BSE dibynadwy ac amserol ac olrheinadwyedd pob rhan o'r carcas;
- System brofi eglur, yn cynnwys adrodd am fethiannau, yn amodol ar adolygiad annibynnol chwe mis ar ôl gweithredu;
- Trefniadau effeithiol ar gyfer tynnu'r asgwrn cefn o wartheg OTM.
Ydych chi'n cytuno? Oes gennych chi awgrymiadau eraill?
Mesurau pellach i leihau risg
5. Gwnaeth y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd nifer o argymhellion manylach ynghylch mesurau pellach i leihau risg (paragraffau 78 ac 81). Roeddent yn cynnwys
- Ymchwilio i asesu'r potensial o adael ganglia'r nerf dorsal yn y cig pan dynnir yr asgwrn cefn ac, os yn briodol, sefydlu protocol ar gyfer y gwaith hwn;
- Eithrio gwartheg wedi eu clwyfo o'r cyflenwad bwyd.
Oes gennych chi farn ar yr awgrymiadau hyn? Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill?
Y Camau nesaf
Hyd yma, nid oes penderfyniad wedi ei wneud. Bydd adroddiad y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd ynghyd â chanlyniadau'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried gan Fwrdd yr ASB yn eu cyfarfod cyhoeddus ar 10 Gorffennaf 2003 yn Llundain. Yna, bydd Bwrdd yr ASB yn gwneud argymhellion i Weinidogion. Mae'n annhebygol y caiff unrhyw newidiadau i'r rheol OTM eu gweithredu cyn 1 Ionawr 2004.
Mewnforion
Roedd y Grŵp Budd-ddeiliaid Craidd yn ymwybodol y byddai unrhyw newid i'r rheol OTM hefyd yn berthnasol i gig eidion a fewnforir (paragraff 82). Fodd bynnag, bydd gwybodaeth asesu risg am gig eidion a fewnforir o'r Iwerddon (y mewnforiwr cig eidion mwyaf o bell ffordd) yn dod i law yn ddiweddarach yn yr Adolygiad. Roedd y Grŵp o'r farn, pa bynnag ddewis a fabwysiedir, ni ddylai beri anghysondeb annerbyniol o ran risg rhwng cig eidion cartref a chig eidion a fewnforir.
Ymatebion
Yn y pen draw, caiff yr holl sylwadau a dderbynnir gan yr Asiantaeth eu cyhoeddi a rhoddir crynodeb ohonynt ar ein gwefan. Os NAD ydych am i'ch sylwadau fod ar gael i'r cyhoedd, nodwch hynny trwy gwblhau a dychwelyd y ffurflen diogelu data gyda'ch ymateb.
Gwybodaeth Bellach
Mae rhestr o'r partïon â diddordeb yr anfonwyd y llythyr hwn atynt ar gael dim ond i chi ofyn amdani. Mae croeso i chi roi'r ddogfen hon i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr Adolygiad. Fel arall, byddai'n bleser gennym drefnu i anfon copïau papur dim ond i chi ofyn. Mae copi o'r pecyn ymgynghori hwn a gwybodaeth bellach am y rheol OTM ar gael ar ein gwefan.
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghoriadau Ysgrifenedig, sydd ar gael yn www.cabinet-office.gov.uk
Fersiwn Gymraeg
Bydd fersiwn Gymraeg o'r pecyn ymgynghori hwn ar gael ar ein gwefan www.food.gov.uk o'r 8fed o Ebrill ymlaen. Anfonir copi drwy'r post i dderbynwyr yng Nghymru. Mae'n ddrwg gennym nad oedd modd cyhoeddi'r ddau ar yr un pryd.
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Judith Taylor, Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB ar 020 7276 8633.
E-bost: judith.taylor@foodstandards.gsi.gov.uk
