Strategaeth Faeth i Gymru
Clefyd y galon yw prif achos marwolaethau yng Nghymru bellach ac mae'r cyfraddau yn sylweddol uwch na Lloegr a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill.
Clefyd y galon yw prif achos marwolaethau yng Nghymru bellach ac mae'r cyfraddau yn sylweddol uwch na Lloegr a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill.
Gwyddom fod cysylltiad pendant rhwng clefyd y galon a deiet sy'n uchel mewn siwgr a brasterau dirlawn.
Yn y cyfamser, deiet gwael yw'r rheswm dros 25% o farwolaethau a achosir gan ganser - ail achos mwyaf cyffredin marwolaethau yng Nghymru.
Mae bwlch sy'n ehangu o ran iechyd rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig hefyd yn golygu bod rhai pobl yn bwyta deiet sy'n llawn sglodion, creision a siwgr.
Mae amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, anabledd, ethnigrwydd a diffyg sgiliau coginio sylfaenol yn golygu bod llawer o bobl yn cael eu denu at ddewisiadau llai iachus eraill.
Roedd nodi'r rhwystrau i newid a phennu ffyrdd arloesol o'u goresgyn ymhlith yr heriau niferus a oedd yn wynebu'r Asiantaeth Safonau Bwyd wrth iddi ddatblygu strategaeth faeth i Gymru gyfan.
Er bod y strategaeth yn targedu poblogaeth Cymru gyfan, mae'r Asiantaeth wedi nodi nifer o grwpiau allweddol ar gyfer camau penodol hefyd.
Gall pobl ifanc a phlant gael budd amlwg o gael deiet iach yn gynnar yn eu bywydau, tra gall cysylltiadau rhwng deiet a phwysau geni isel a gwelliant cyffredinol o ran statws maeth merched cyn-geni a merched beichiog effeithio ar y fam a'r baban.
Mae dynion canol oed, sy'n debygol iawn o gael clefyd coronaidd y galon, yn grŵp targed allweddol arall yn strategaeth yr Asiantaeth.
Defnyddwyr sydd ag incwm isel a defnyddwyr eraill sy'n agored i niwed yw'r pedwerydd grŵp gan fod gwaith ymchwil yn dangos y gall eu hamgylchiadau olygu eu bod yn dewis deiet llai iach na'u cyfoedion mewn grwpiau cymdeithasol-economaidd uwch.
Gan ddefnyddio barn, profiad ac arbenigedd nifer o arbenigwyr, cynhaliodd yr Asiantaeth nifer o weithdai i drafod ffyrdd o ddymchwel y rhwystrau sy'n bodoli i ddeiet iach.
Gwnaethom edrych yn agos ar ddulliau a fydd yn annog poblogaeth Cymru i fabwysiadu agwedd iachach tuag at ddeiet.
