Cyfres o Adroddiadau Maeth
Mae astudiaethau maeth annibynnol a ariannwyd gan ASB Cymru bellach ar gael ar-lein. Yn benodol, gallwch ddarllen casgliadau ac argymhellion yr astudiaethau hyn sydd wedi llywio, ac yn parhau i lywio, polisi o ran 'Bwyd a Lles' cynllun gweithredu'r strategaeth faeth genedlaethol i Gymru.
Find out more
Adroddiad Cyfresi Maeth: Adolygiad o ofynion adnoddau bwyta'n iach gweithwyr iechyd proffesiynol
Comisiynodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru waith ymchwil i adolygu gofynion adnoddau bwyta'n iach gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru sy'n rhoi cyngor ar fwyta'n iach i'r cyhoedd.
Adroddiad Cyfresi Maeth: Arolwg defnyddwyr
Cynhaliwyd Arolwg Defnyddwyr Cymru ym mis Hydref 2000 gyda thua 2,000 o oedolion ledled Cymru. Roedd yn cwmpasu bwyta'n iach a diogelwch bwyd ac roedd yn cynrychioli'r boblogaeth yn ôl rhyw, oedran a rhanbarth ac yn cwmpasu dosbarth cymdeithasol ac incwm.
Adroddiad Cyfresi Maeth: Gwerthusiad o'r cynllun peilot 'Get Cooking'
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys canlyniadau o werthusiad y cynllun peilot 'Get Cooking!' a gynhaliwyd gyda phedwar grŵp o bobl ifanc mewn pedwar lleoliad gwahanol. Cynhaliwyd y cyrsiau peilot yn ystod y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2002 a mis Mawrth 2003.
Adroddiad Cyfresi Maeth: Gwerthuso 'Catering For Health'
Roedd angen i ASB Cymru wneud gwaith ymchwil er mwyn asesu'r ymwybyddiaeth o Catering for Health yng Nghymru a chael darun o'r defnydd a wneir ohono a'i effaith ymhlith darlithwyr coginio yng Nghymru.
Adroddiad Cyfresi Maeth: Nodi gofynion pobl ifanc o ran deall beth yw maint dogn o ffrwythau a llysiau
Nod yr astudiaeth hon oedd nodi fformat addas i roi gwybod i bobl ifanc beth yw maint dogn o ffrwythau a llysiau.
Adroddiad Maeth: Adnoddau bwyta'n iach ar incwm isel i blant a phobl ifanc
Comisiynodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru brosiect ymchwil i ymchwilio i wybodaeth plant a phobl ifanc am argymhellion bwyta'n iach ac archwilio'r ffynonellau gwybodaeth cyfredol a'r rhai a oedd yn well ganddynt.
Adroddiad Maeth: Adnoddau bwyta'n iach i grwpiau sydd o dan anfantais gymdeithasol
Diben yr adolygiad hwn yw asesu ansawdd adnoddau addysg maeth a pha mor hawdd yw cael gafael arnynt; yn arbennig y rhai a allai ddiwallu anghenion grwpiau sydd o dan anfantais gymdeithasol yng Nghymru.
Adroddiad Maeth: Adnoddau bwyta'n iach i oedolion ar incwm isel
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu prif ganfyddiadau prosiect ymchwil a gomisiynwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i asesu gofynion adnoddau bwyta'n iach oedolion mewn ardaloedd sydd ag incwm isel.
Adroddiad Maeth: Adolygiad o brosiectau bwyd yng Nghymru
Yr adroddiad hwn yw canlyniad gwaith yr ymgymerwyd ag ef ar ran Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru o fis Mawrth i fis Mai 2001.
