Gwobrau AFAL
Mae ASB Cymru yn gwahodd enwebiadau bob blwyddyn ar gyfer unigolion, timau neu brosiectau y mae pobl o'r farn eu bod wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeiet neu dueddiadau bwyta trigolion yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu ar gyfer pob rownd o'r Gwobrau Mentrau Bwyd Lleol (Gwobrau AFAL).
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhedeg y cynllun blynyddol Gwobrau Mentrau Bwyd Lleol (AFAL) i gydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau i fentrau maeth lleol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeiet neu dueddiadau bwyta trigolion yn y cymunedau lle maent yn gweithio.
Bydd y Gwobrau yn rhoi cyfle i ASB Cymru gydnabod a rhoi sylw i waith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd y rheini sy'n ymwneud â hyrwyddo gwell deiet yn lleol. Mae gwaith gan gymunedau lleol i fynd i'r afael â deiet a maeth yn allweddol hefyd i lwyddiant cyffredinol y strategaeth faethiad i Gymru, 'Bwyd a Lles'.
Lansiwyd y Gwobrau ym mis Rhagfyr 2003 ac maent yn gyfle gwych i roi sylw i'r arferion da a ddangosir gan yr enillwyr a'r rhai yn y rownd derfynol, ac maent wedi bod yn ffordd wych o ysgogi eraill sy'n awyddus i wneud gweithgareddau tebyg.
Mae'r cynllun Gwobrau hefyd wedi caniatáu i ASB Cymru greu darlun llawnach o brosiectau bwyd cymunedol sy'n bodoli ledled Cymru. Mae'r holl brosiectau a enwebwyd o'r ddwy flynedd flaenorol o'r cynllun yn sail i gronfa ddata y gellir ei chwilio ar wefan 'Rhwydwaith Maeth Cymru'.
Sut mae Gwobrau Mentrau Bwyd Lleol (AFAL) yn gweithio
Mae ASB Cymru yn gwahodd enwebiadau bob blwyddyn ar gyfer unigolion, timau neu brosiectau y mae pobl o'r farn eu bod wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeiet neu dueddiadau bwyta trigolion yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu ar gyfer pob rownd o' Gwobrau Mentrau Bwyd Lleol.
Mae'r Gwobrau yn agored i bob unigolyn neu sefydliad sy'n gweithio i geisio gwella deiet eu cymuned leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyfranogwyr allweddol o bob sector, fel gweithwyr cymunedol a gwirfoddol, y sector addysg, arlwywyr, manwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd, awdurdodau lleol a byrddau iechyd sy'n gweithio i greu effaith yn y gymuned.
Rhoddir gwobrau i'r pum prosiect yr ystyrir eu bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol i wella deiet yn eu cymuned. Rhoddir gwobrau i bum arall sy'n cyrraedd y rownd derfynol hefyd.
Gellir cymryd rhan drwy gwblhau ffurflen enwebu a gaiff ei beirniadu gan banel dethol annibynnol.
Bydd enillwyr yn cael £2000 i'w fuddsoddi yn eu mentrau bwyta'n iach. Bydd y rhai eraill sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael £1000. Bydd enillwyr a'r rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael powlen ffrwythau ddathliadol a thystysgrif hefyd.
Gellir cael rhagor o fanylion am y gwobrau a gyflwynwyd yn ystod tair blynedd gyntaf y cynllun drwy'r cysylltiadau isod.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â Kerys James-Palmer ar 02920 678912 neu anfonwch e-bost i: nutritionstrategywales@foodstandards.gsi.gov.uk
