Trelar adnoddau ASB Cymru
Tuesday 24 October 2006
Nod trelar adnoddau ASB Cymru yw codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyta'n iach, gyda phwyslais ar blant ysgol a grwpiau sy'n agored i niwed yn y gymuned.
Mae amcanion eraill y trelar yn cynnwys datblygu partneriaethau gyda sefydliadau o'r un feddylfryd a darparu gwybodaeth am ddiogelwch bwyd a bwyta'n iach mewn ffordd effeithiol i wahanol grwpiau a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ASB Cymru a'i swyddogaeth yng Nghymru.
Mae fformat y trelar a'i faint (21.35m x 12.2m) yn cynnig yr hyblygrwydd sy'n hanfodol i sicrhau bod modd targedu gweithgareddau at gynulleidfaoedd penodol. Gallai hyn gynnwys:
- arddangosiadau coginio byw
- pantomeimiau fel Sinderela, Bad Food Live a Jac a'r Goeden Ffa Pob
- gemau cyfrifiadur rhyngweithiol sy'n seiliedig ar fwyta'n iach a diogelwch bwyd
- gemau rhedeg gyda'r gynulleidfa'n cymryd rhan
- helfa bacteria gyda sganiwr uwch-fioled
- arddangosfeydd ystadegau ar fwyta'n iach a diogelwch bwyd
Mae'r trelar yn mynychu digwyddiadau fel:
- Sioeau Teithio 'Clamp o Broblem', mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r BBC
- Digwyddiadau addysgol ledled Cymru, yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a'r heddlu
- Sioeau amaethyddol
- Eisteddfodau
- Ffeiriau Bwyd
I ymholi a yw'r trelar adnoddau ar gael ar gyfer eich digwyddiad chi, anfonwch e-bost at: deb.morgan@foodstandards.gsi.gov.uk neu ffoniwch 029 2067 8999.
