Scores on the Doors yng Nghymru
Yng Nghymru mae dau awdurdod lleol yn gweithredu cynlluniau Scores on the Doors ar hyn o bryd ac mae un o'r rhain yn rhan o gynllun peilot yr Asiantaeth.
Abertawe yw'r awdurdod lleol sy'n cymryd rhan yng nghynlluniau peilot yr ASB. Edrychwch ar wefan Abertawe i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Wrecsam hefyd yn rhedeg cynllun Scores on the Doors. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, nad yw'n rhan o gynlluniau peilot yr ASB ar wefan Wrecsam.
Gellir ystyried tystiolaeth o gynllun Wrecsam, a chynlluniau eraill nad ydynt yn rhan o gynlluniau peilot yr ASB, mewn unrhyw argymhellion yn y dyfodol ar gyfer un cynllun cenedlaethol.
Cynllun Gwobrau Hylendid Bwyd Cymru
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru eisoes yn cymryd rhan yng nghynllun Gwobrau Hylendid Bwyd Cymru. Lansiwyd y cynllun hwn yn 2002 ac mae'n targedu busnesau bwyd sy'n paratoi a/neu yn gwerthu bwyd risg uchel. Rhoddir gwobrau yn unol â disgresiwn yr awdurdod lleol yn dilyn asesiad yn ystod archwiliad hylendid bwyd wedi'i raglennu a gynhelir yn ddirybudd Gellir dod o hyd i fanylion am y Gwobrau ar wefannau yr awdurdodau lleol.
Rhoddwyd manylion am y cynllun mewn papur a gyflwynwyd i'r Grŵp Cyswllt Gorfodi ym mis Tachwedd 2005. Gellir gweld y papur hwn yn y cyswllt isod.
