Datganiadau i'r wasg
Fersiynau Cymraeg o ddataganiadau ASB Cymru i'r wasg
Find out more
2006
Press releases issued in 2006
2007
Press releases issued in 2007
Galw ar weithredwyr busnesau bwyd Cymru
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal seminar ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd, er mwyn trafod cynnig newydd gan y Comisiwn Ewropeaidd i gyflwyno Rheoliad ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr.
2008
Press releases issued in 2008
Yr arolwg diweddaraf o agweddau defnyddwyr – bwyta’n iach yn bwysig yng nghymru
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi’r wythfed arolwg blynyddol o Agweddau Defnyddwyr1 ar gyfer Cymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod defnyddwyr yn parhau i gymryd llawer o ddiddordeb mewn bwyta’n iach.
Llywio Arferion Bwyta Y Genhedlaeth Nesaf
Heddiw cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd fframwaith o wybodaeth a sgiliau craidd ar gyfer plant a phobl ifanc, sy'n nodi'r cerrig sylfaen hanfodol mewn perthynas â bwyta’n iach, coginio a diogelwch bwyd.
Blas Cas Ar Y Nadolig
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar, mae 80% o bobl y DU yn golchi eu twrci cyn eu coginio, gan gynyddu’r perygl o achosi gwenwyn bwyd yn sylweddol.
Prif Weithredwr Newydd Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae'r Fonesig Deirdre Hutton, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), wedi penodi Tim Smith fel Prif Weithredwr newydd yr Asiantaeth. Bydd Tim Smith yn dechrau yn ei swydd ym mis Mawrth 2008, a hynny yn lle John Harwood, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr ers mis Mawrth 2006.
Chwilio am brosiectau cymunedol ar gyfer gwobrau AFAL
Yn dilyn llwyddiant y Cynllun AFAL (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol) dros y pedair blynedd diwethaf, mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2008. Mae'r Gwobrau AFAL yn cydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau at fentrau maethiad lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddeiet neu arferion bwyta trigolion yn eu cymunedau.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cydnabod prosiectau bwyd cymunedol
Yn y cynadleddau Maeth a gynhaliwyd yn ddiweddar, bu Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cydnabod prosiectau ledled Cymru yn ei Chynllun Gwobrwyo AFAL (Gwobrau Mentrau Bwyd Lleol) 2007. Mae’r Wobr, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2003, yn gynllun i gydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau at fentrau maeth lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddeiet neu arferion bwyta eu cymunedau.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal cynadleddau ar faeth
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal cynadleddau ar y Strategaeth Faethiad 'Bwyd a Lles' 2007 yn ystod mis Mehefin.
Ymgyrch Yn Parhau I Leihau'r Defnydd O Halen A Gwella Iechyd Y Cyhoedd
Mae ymchwil gan yr ASB yn dangos bod pobl ym Mhrydain yn bwyta llai o halen nag yr oeddent bum mlynedd yn ôl. Mae profion sodiwm wrinol yn dangos gostyngiad bach ond arwyddocaol yn nefnydd cyfartalog y boblogaeth o halen ers y mesuriad diwethaf yn 2001.
Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori Ar Fwyd Cymru - 8 Mawrth 2007
Fel rhan o'i sesiynau agored rheolaidd, bydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ASB Cymru yn cynnal cyfarfod agored yn Llandudno ddydd Iau 8 Mawrth.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd Yn Datgelu Arferion Coginio A Bwyta Nadolig Cymru
Bwyta, yfed a bod yn llawen - dyna'r bwriad arferol adeg y Nadolig. Ond a ydych erioed wedi meddwl beth yn union fydd y bwyd y bydd pobl Cymru yn ei weini fwyaf a pha fwyd Nadoligaidd nad yw'n creu archwaeth am fwyd?
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd Yn Lansio'r Ymgynghoriad Terfynol Ar Fesurau I Gynyddu Faint O Ffolad Sydd Yn Neiet Merched Ifanc
Lansiodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd heddiw ymgynghoriad yn nodi'r opsiynau ar gyfer cynyddu faint o'r fitamin ffolad sydd yn neiet merched ifanc er mwyn lleihau nifer yr achosion lle mae diffygion tiwb niwral (NTD) yn effeithio ar feichiogrwydd yn y DU 1.
Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori Ar Fwyd Cymru: 7 Tachwedd 2006
Fel rhan o'i sesiynau agored rheolaidd, mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ASB Cymru yn cynnal cyfarfod agored yn Abertawe ddydd Mawrth 7 Tachwedd.
Chwilio am brosiectau cymunedol ar gyfer gwobrau AFAL 2007
Yn dilyn llwyddiant y Cynllun AFAL (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol) dros y tair blynedd diwethaf, mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2007.
ASB Cymru yn lansio gêm ryngweithiol newydd
A hithau'n Wythnos Diogelwch Bwyd y DU Foodlink wythnos nesaf, (12-18 Mehefin) mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn lansio g m gyfrifiadurol newydd 'Foodbusters' sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw meithrin arferion diogelwch bwyd a hylendid da yn y gegin wrth drin bwyd.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal cynadleddau maethiad
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n cynnal cynadleddau 'Bwyd a Lles' Rhwydwaith Maethiad Cymru 2006 yn ystod mis Mai a Mehefin.
Asiantaeth safonau bwyd cymru yn cynnal cynadleddau maethiad
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n cynnal cynadleddau 'Bwyd a Lles' Rhwydwaith Maethiad Cymru 2006 yn ystod mis Mai a Mehefin.
Materion cig ac amaeth
Fel rhan o'i Gyfarfodydd Agored rheolaidd, mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ASB Cymru'n cynnal cyfarfod agored ar Faterion Cig ac Amaeth yn Aberystwyth dydd Mercher, 18 Ionawr.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru Yn Lansio'r Gwobrau AFAL Am Y Drydedd Flwyddyn
Yn dilyn llwyddiant ei Chynllun AFAL (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol) yn 2004 a 2005, mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn lansio'r Gwobrau unwaith eto yn 2006.
Asiantaeth i gefnogi Ymchwiliad yng Nghymru
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi croesawu cyhoeddiad Gweinidog Iechyd y Cynulliad bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r achosion o E.coli 0157 yng Nghymru.
Defnyddwyr Yn Dweud Na I Ormod O Halen
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw'n dangos bod 22 miliwn o bobl ym Mhrydain yn ceisio torri lawr ar eu halen - cynnydd o bron i chwe miliwn ers Medi 2004.(1)
ACAF I Gynnal Cyfarfod Agored Yng Nghaerdydd
Bydd 31ain cyfarfod y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF) yn cael ei gynnal mewn sesiwn agored yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd ar 20 Medi 2005.
Bwyd Iach ar Arian Bach
Os ydych chi'n cychwyn yn y coleg neu'r brifysgol yn yr Hydref, mae'n debyg y byddwch yn byw oddi cartref am y tro cyntaf. Eich cyfrifoldeb chi fydd gofalu nad ydych chi'n gwastraffu dim. Ac i wneud pethau'n anoddach, mae disgwyl i chi wneud hynny gyda phapur pum punt, popty bach a thostiwr.
Curo'r Germau Yng Ngweithdai ASB Cymru, Techniquest
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal cyfres o weithdai i blant yn Techniquest, Caerdydd, fel rhan o raglen ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar faethiad a diogelwch bwyd. Mae'r gweithdai yn dechrau ddydd Mawrth 23 Awst ac yn para am wythnos, gallwch archebu lle ymlaen llaw gyda Techniquest ac wrth gyrraedd ar y dydd.
Penodi aelodau newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Mae Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (ASBC), Joy Whinney, wedi croesawu penodiad dau aelod newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd annibynnol Cymru (WFAC).
Cyfle i drafod y newid arfaethedig i'r rheol OTM yn cynnwys profion BSE
Bydd cyfres o gyfarfodydd agored gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ledled y DU yn ystod yr wythnos olaf yng Ngorffennaf yn rhoi cyfle i randdeiliaid o'r cyhoedd drafod y broses arfaethedig i newid y Rheol Dros Drideg Mis (OTM), yn cynnwys canlyniadau profion BSE.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cyflwyno enillwyr 'AFAL' 2005 (Gwobrau Mentrau Bwyd Lleol)
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi enwau enillwyr gwobrau AFAL 2005. Nod y wobr, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2003, yw cydnabod cyfraniadau unigolion neu dimoedd i fentrau maeth lleol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeiet neu arferion bwyta eu cymunedau.
ASB Cymru'n lansio adnodd ar-lein 'Get Cooking!'
Yn ddiweddar lansiodd ASB Cymru becyn newydd ar gyfer coginio i bobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Mae 'Get Cooking!' yn adnodd ar-lein i'r arweinwyr hynny sydd am gyflwyno ffeithiau sylfaenol am goginio, hylendid bwyd a bwyta'n iach.
Cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 'FIND: Cyllid I Mentrau Maethiad a Deiet'
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru FIND: Cyllid I Mentrau Maethiad a Deiet.
Prydau Ysgol - Mae'r Drafodaeth Yn Parhau
Ar ôl i Jamie Oliver roi sylw blaenllaw i brydau ysgol yn ei gyfres deledu ddiweddar, tro pobl Wrecsam yw hi nawr i ymuno âr drafodaeth. Bydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ASB Cymru yn trafod 'Prydau Ysgol' mewn sesiwn agored yn y dref ddydd Mercher 20 Ebrill.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru Yn Cyflwyno Adnoddau Addysg Ar Y We
Diogelwch bwyd a bwyta'n iach - dyna negeseuon allweddol 'Barbeciw Ewythr Arthur', adnoddau addysg ar-lein ar gyfer ysgolion cynradd, gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Y Diweddaraf Am Halogi Bwyd Gyda Sudan I Gan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yr wythnos hon mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol wedi cydlynu ymchwiliadau pellach i gwmnïau a ffatrïoedd yr honnir eu bod wedi cyflenwi bwydydd sydd wedi'u halogi â'r lliw anghyfreithlon Sudan 1.
Cyflwyno Uned Cydgysylltu Twyll Bwyd Yng Nghymru
O ganlyniad i bryder ynglŷn â nifer y materion bwyd anaddas a lladd anghyfreithlon yr ydym wedi eu hymchwilio yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae Uned Cydgysylltu Twyll Bwyd arbenigol wedi ei sefydlu yng Nghymru.
Neges i bawb sy'n hoffi hel eu boliau
Ydych chi'n giamstar yn y gegin neu'n dibynnu ar brydau parod? Efallai eich bod yn dwli ar fwyd cyflym neu fwyd wedi'i baratoi'n araf. Beth bynnag sydd at eich dant, efallai bydd gennych ddiddordeb yn sesiwn agored Pwyllgor Ymgynghorol Bwyd ASB Cymru i drafod 'Bwyd Cyflym' ddydd Mercher, 23 Chwefror, yng Nghaerfyrddin.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n Lansio Gwobrau Afal 2005
Yn dilyn llwyddiant Cynllun AFAL 2004 - Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol (Awards For Food Action Locally), mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wrthi ar hyn o bryd yn lansio Gwobrau 2005.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru’n Cyhoeddi Mwy O Wobrau
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi mwy o enillwyr cynllun gwobrau AFAL 2003/2004. Lansiwyd y Cynllun ym mis Tachwedd y llynedd, a’r bwriad yw gwobrwyo unigolion neu dimau mentrau maeth lleol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddiet neu arferion bwyta yn eu cymunedau.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau 'AFAL'
Yn ei Chynhadledd Gweithredu'r Strategaeth Faethiad yn Llandudno, cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru enillwyr gwobrau AFAL 2003/2004. Lansiwyd y gwobrau ym mis Tachwedd y llynedd, ac mae'r cynllun yn cydnabod cyfraniad unigolyn neu dîm i fentrau maethiad lleol sydd wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ddiet neu arferion bwyta yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Yr Asiantaeth i archwilio gweithgareddau gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir Powys
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir Powys. Bydd yr archwiliad, a fydd yn cychwyn ar 24 Mai 2004, yn galluogi'r Asiantaeth i gymharu perfformiad yr awdurdod â'r safon drwy'r DU gyfan.
Datblygu Rhwydwaith Maethiad i Gymru
Cafodd yr angen am Rwydwaith Maethiad ei nodi gan randdeiliaid yn ystod y gwaith o ddatblygu 'Bwyd a Lles', Strategaeth Faethiad i Gymru, fel dull o ddapraru gwybodaeth i bobl allweddol, yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, gwneuthurwyr polisi, athrawon, sefydliadau gwirfoddol ac eraill i wella maethiad, yn enwedig mewn grwpiau blaenoriaeth.
Asiantaeth I Archwilio Gweithgareddau Gorfodi Cyfraith Bwyd Cyngor Sir Conwy
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ar fin cynnal archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith bwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Bydd yr archwiliad, a fydd yn cychwyn ar 27 Ebrill 2004, yn galluogi'r Asiantaeth i gymharu perfformiad yr awdurdod yn erbyn safon ledled y DU.
Gorfodi cyfraith bwyd i’w drafod mewn cyfarfod agored y Pwyllgor Cynghori ar Fwyd
Trafodir gorfodi cyfraith bwyd Awdurdod Lleol mewn cyfarfod agored yng Nghaernarfon ddydd Mercher, 21 Ebrill.
Arolwg asb yn dangos lefel isel iawn o halogiad salmonela mewn wyau
Mae arolwg o wyau a gynhyrchwyd yn y DU, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, wedi darganfod bod lefel yr halogiad salmonela bellach yn draean o'r halogiad a oedd yn bodoli ym 1996. Dim ond un o bob 290 bocs o chwech o wyau sydd ar werth sydd ag unrhyw halogiad salmonela, o gymharu ag un o bob 100 yn arolwg 1995/96.
Grwpiau Caerdydd a'r fro yn ennill grantiau Bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 20 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed, gan gynnwys un yng Nghaerdydd ac un arall yn y Barri, wedi ennill arian ar gyfer digwyddiadau bwyta'n iach gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Yr Asiantaeth Yn Archwilio Gweithgareddau Gordfodi Cyrfraith Fwyd Cyngor Sir Y Fflint
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn bwriadu cynnal archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir y Fflint.
Dewisiadau ffrwythau a llysiau mwy iach ar fwydlen ysgol ond nid yw dewisiadau plant wedi newid eto
Cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ganfyddiadau’r ymchwil i ginio ysgol a gynhaliwyd yn 2002 i ymchwilio i effaith cyflwyno'r safonau gofynnol statudol ar gyfer cinio ysgol.
Asiantaeth i archwilio gweithgarwch gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir Wrecsam
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru am gynnal archwiliad o weithgarwch gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir Wrecsam. Bydd yr archwiliad, a fydd yn dechrau ar 13 Hydref 2003, yn caniatau i'r Asiantaeth gymharu perfformiad yr awdurdod yn erbyn y safon ledled y DU.
Hwyl Y Pantomein Bwyd Yn Sioe Môn
Bydd Sindarela, y Chwaer Hyll a’r Ddewines Garedig yn ymladd yn erbyn ‘Mr E’ (E-Coli), ‘Liz’ (Listeria) ‘Sal’ (Salmonela) yn eu Cegin Wallgof bob dydd yn Sioe Môn yr wythnos nesaf, wrth i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ddod â’i chymysgedd unigryw o gyngor am hylendid bwyd a bwyta’n iach i Walchmai.
Cynnig Grantiau Bwyta'n Iach I Grwpiau Gwirfoddol Dros 65 Oed
Gwahoddir grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - ac yn arbennig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â grwpiau diamddiffyn a’r rhai sydd o dan anfantais yn gymdeithasol ac yn economaidd - i wneud cais am arian gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Cogyddion Enwog Ar Y Fwydlen Yn Sioe Frenhinol Cymru
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnig bwydlen tri chwrs o hwyl a sbri yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, a chystadleuaeth goginio enwogion Bwyd Drwg yn Fyw! yr enwogion fydd ar frig y fwydlen honno.
Prif Weinidog Cymru I Lansio Cd-Rom 'Gimme 5!'
Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon bydd Rhodri Morgan Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio CD-Rom sydd wedi'i hanelu at annog pobl ifanc i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau.
Profiad melys i bobl ifanc yng nghyflwyniad coginio 'Get Cooking'
Caiff pobl ifanc sy'n gysylltiedig â phroject peilot sy'n eu hannog i fwynhau coginio a meithrin eu hyder eu gwobrwyo mewn seremoni cyflwyno tystysgrifau arbennig yn y Rhondda heno (dydd Mawrth).
Arolwg gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos gostyngiad yn y pryder ynglŷn â BSE a diogelwch bwyd
Mae trydydd arolwg blynyddol Agweddau Defnyddwyr Cymru tuag at Fwyd, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA), yn datgelu gostyngiad bach ond arwyddocaol yn y pryder ynglŷn â diogelwch bwyd o 72% yn 2000 i 68% yn 2002.
Lansio 'Bwyd A Lles' yw'r cam cyntaf i wella diet y genedl
System o raglenni integredig, polisïau lleol a chenedlaethol i addysgu a hybu newid yng Nghymru
Yr Asiantaeth Yn Archwilio Gweithgareddau Gorfodi Cyfraith Bwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-Faen
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cwblhau archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith bwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Bydd yr archwiliad yn galluogi'r Asiantaeth i gymharu perfformiad yr awdurdod yn erbyn safon ledled y DU a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2001.
Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adroddiad archwiliad awdurdod lleol ar gyfer Caerdydd
Cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru adroddiad manwl ar wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a gynhaliwyd gan Wasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd Dinas a Sir Caerdydd. Dengys yr archwiliad y gall Awdurdod arddangos ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr a chytbwys.
Yr Asiantaeth yn archwilio gweithgareddau gorfodi cyfraith bwyd Sir Ddinbych
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cwblhau archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith bwyd Cyngor Sir Ddinbych. Bydd yr archwiliad yn galluogi'r Asiantaeth i gymharu perfformiad yr awdurdod yn erbyn safon ledled y DU a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2001.
Pobl ifanc yn mynd ati i goginio mewn cynllun peilot yn ne Cymru
Mae prosiect peilot i annog pobl ifanc i fwynhau coginio ac i fagu hyder wrth goginio ar waith yn ne Cymru.
Sioe FSA Cymru yn cychwyn ar ei thaith
Mae cerbyd 12-metr o hyd FSA Cymru wedi cychwyn ar ei daith ledled y wlad a bydd yn llwyfan i nifer o ddigwyddiadau lleol a rhanbarthol yn ystod y misoedd nesaf.
Taith hwyl gyda bwyd yr Asiantaeth yn galw heibio Abertyleri
Gall plant, pobl ifanc, mamau a'r henoed ddisgwyl cymryd rhan mewn digwyddiad lle cânt hwyl gyda bwyd yr wythnos hon pan ddaw'r Asiantaeth â'i harddangosfa i Abertyleri.
Grŵp Abertawe yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys pedwar yn Abertawe - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Grŵp Casnewydd yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys dau yng Nghasnewydd - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Grŵp Merthyr Tudful yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys tri ym Merthyr Tudful - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Grŵp Powys yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys dau ym Mhowys - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Grŵp Sir Fôn yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys un wedi'i leoli yn Amlwch, Sir Fôn - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ar gyfer digwyddiadau bwyta'n iach.
Grŵp Sir Y Fflint yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys dau yn Sir Y Fflint - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Grwpiau Caerdydd a Phontypridd yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys un yng Nghaerdydd ac yn ym Mhontypridd - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Grwpiau'r Rhyl a Llanelwy yn ennill grant bwyta'n iach yr Asiantaeth
Mae 22 o grwpiau cymunedol, elusennol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed - yn cynnwys dau yn y Rhyl a dau yn Llanelwy - wedi ennill arian oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
£5,000 i ysgol ym Mhort Talbot yn sgîl prosiect brecwast
Mae astudiaeth i mewn i'r rhesymau pam fod rhai plant ysgol yn dechrau eu diwrnod heb frecwast - a ffyrdd o oresgyn y broblem - wedi rhoi'r wobr gyntaf i ysgol ym Mhort Talbot mewn cystadleuaeth gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Arddangosiadau cogino Cwmbrân yn dangos sut i gadw'n iach y gaeaf hwn
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn dangos pa mor hawdd ydyw i goginio gwledd iachus, faethlon yr wythnos hon wrth iddi gyflwyno rhaglen o arddangosiadau coginio byw yn Warws Panasonic, Park View Drive.
Bydd yr Asiantaeth tn creu ryseitiau ar gyfer ei hymgyrch gofal piau hi y gaeaf hwn
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn coginio ryseitiau ar gyfer hyrwyddo bwyta'n iach ymhlith pobl dros 65 oed ym Mae Colwyn yr wythnos nesaf.
Y cycle olaf ar gyfer grantiau bwyta'n iach
Dim ond pedair wythnos sydd ar ôl gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl hŷn i wneud cais am arian gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. Mae gan bobl tan 5 Medi i wneud cais am gyfran o £10,000 sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau neu fentrau unigryw sy'n canolbwyntio ar fwyta'n iach.
Hwyl gyda choginio a phantomeim i bawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd arddangosiadau coginio, pantomeim a gemau cyfrifiadur rhyngweithiol ar gael i ymwelwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gydag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn dod â’i chymysgedd unigryw o gyngor ar hylendid bwyd a bwyta’n iach i’r Maes.
Grantiau bwyta'n iach ar gael ar gyfer grwpiau gwirfoddol i bobl dros 65 oed
Gwahoddir grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed i wneud cais am arian gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. Mae hyd at 20 o grantiau o £500 – cyfanswm o £10,000 - ar gael tuag at ddigwyddiadau neu fentrau unigryw ar fwyta'n iach.
Hwyl Gyda Bwyd i Bawb Yn Sioe Frehninol Cymru
Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn dod â'i chymysgedd unigryw o gyngor, addysg, hwyl ac adborth i ddefnyddwyr i Sioe Frenhinol Cymru eleni (22 – 25 Gorffennaf).
Targedau Perfformiad y Gwasanaeth Glanweithdra Cig 2002/03
Ymhlith Targedau Perfformiad y Gwasanaeth Glanweithdra Cig ar gyfer blwyddyn ariannol 2002/03 y mae parhau i ostwng peryglon microbiolegol mewn cig a sicrhau bod camau rheoli BSE yn cael eu gweithredu'n gadarn.
Dysgu am ddiogelwch bwyd yn talu ar ei ganfed
Mae plant mewn dwy ysgol yng Nghaerdydd ar fin elwa ddwywaith diolch i ymrwymiad eu hathrawon i ddiogelwch bwyd.
YN EISIAU! Defnyddwyr i’n helpu i wella labeli bwyd
Mae traean o ddefnyddwyr yng Nghymru yn cwestiynu cywirdeb labeli bwyd, ac mae dros chwarter ohonynt yn ei chael hi’n anodd i’w deall, yn ôl ymchwil gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).
Sut i osgoi bygiau'r barbeciw yng Nghymru
Cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar goginio'n ddiogel ar eich barbeciw yr haf hwn
Arwlo ar gyfer iechyd i fod ar ben y fwydlen
Bydd canllaw ymarferol wedi ei anelu at gwrdd â'r galw gan ddefnyddwyr am ddewisiadau mwy iach wrth fwyta allan yn cael ei lansio gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yng Ngholeg Llandrillo, Bae Colwyn yr wythnos nesaf (17 Mai).
Mae Asid Ffolig A Darparu Ar Gyfer Iechyd Ar Y Fwydlen Ar Gyfer Ymweliad Cyntaf Y Pwyllgor Ymgynghorol Bwyd  Bae Colwyn
Bydd cryfhau bwydydd arbennig gydag asid ffolig a darparu ar gyfer iechyd ar y fwydlen yn ddiweddarach yn ystod y mis hwn pan fydd Pwyllgor Ymgynghorol Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal cyfarfod agored yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn, Parc Eirias. Bydd y digwyddiad yn un sy’n agos at adref i ddau aelod o'r pwyllgor sy'n byw yng Ngogledd Cymru.
Arolwg yr asiantaeth safonau bwyd yn datgelu agweddau tuag at faterion bwyd yng Nghymru
Mae ail arolwg blynyddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar agweddau'r cyhoedd tuag at ddiogelwch bwyd, maetheg, deiet a siopa yn nodi bod pobl yng Nghymru yn dod yn gynyddol ymwybodol o'r angen i fwyta mwy o lysiau, salad a ffrwythau.
Y pwyllgor gwarchod bwyd yn cyhoeddi penodiad aelod o gyngor defnyddwyr Cymru
Mae cynrychiolydd defnyddwyr o Gaerdydd wedi'i phenodi i Bwyllgor Defnyddwyr newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd Claire Whyley, Pennaeth Ymchwil Cyngor Defnyddwyr Cymru yn helpu i sicrhau bod proses llunio polisïau’r Asiantaeth yn agored i amrywiaeth eang o fuddiannau defnyddwyr ac y gwneir ei phenderfyniadau yn seiliedig ar ddealltwriaeth lawn o anghenion a barn y defnyddwyr.
Yr Asiantaeth yn gweithredu ar gynnyrch o dde Ddwyrian Asia sy'n dangos rhagor o weddillion cyffuriau anghyfreithlon
Derbyniodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ganlyniadau profion ar nifer o gynnyrch o dras anifeiliaid o Tsieina a De Ddwyrain Asia.
DIDDYMU JAMES WHITE FRESH DRY BRAMLEY APPLE JUICE – CYNGHORI DEFNYDDWYR I BEIDIO AG YFED Y CYNNYRCH HWN
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cymryd camau heddiw i sicrhau bod llwyth o James White Fresh Dry Bramley Apple Juice yn cael ei ddiddymu’n llwyr rhag ei werthu.
HYLENDID BWYD A CHOCOS AR Y FWYDLEN YN ABERTAWE
Bydd ymgyrch hylendid bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chocos Porth Tywyn ar yr agenda yng nghyfarfod agored Pwyllgor Ymgynghorol yr Asiantaeth i Gymru yn Abertawe yr wythnos nesaf (Dydd Iau, 28 Chwefror).
Rhywbeth I Gnoi Cil Arno Mewn Ysgol Gyfun Ym Mhontypridd
** Cyfle am lun ** Disgyblion mewn Ysgol Gyfun ym Mhontypridd fydd y rhai cyntaf yng Nghymru i samplu CD-ROM newydd yr wythnos nesaf (dydd Mercher). Bydd Ffeithiau Bwyd Rhyngweithiol, sy'n ceisio hyrwyddo cysyniadau bwyd da a maethiad, yn cael ei gyflwyno i fyfyrwyr technoleg bwyd Ysgol Rhydfelen mewn lansiad ddydd Mercher, 23 Ionawr (10:30am).
Rhaid Lladd Lloi Gwartheg  Bse Sy'N Weddill
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, DEFRA, wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd bod cig o lo buwch â BSE wedi cyrraedd y gadwyn fwyd ddynol.
Grwp Machynlleth Yn Ennill Cyllid Ar Gyfer Clwb Cinio I'r Henoed
Bydd grwp gweithredu cymunedol CAMAD (Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch) yn cynnal ei glwb cinio cyntaf i'r henoed yr wythnos nesaf, diolch i grant gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Y Genedl Wedi'i Rhannu O Ran Stwffio'r Twrci
Stwffio neu beidio stwffio - dyna'r penbleth sy'n wynebu cogyddion Nadolig y genedl ar ôl i ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgelu nad yw'r ffyrdd traddodiadol o goginio twrci yn ddiogel bob tro.
Henoed Caerffili I Ymuno Â'R Clwb Brecwast
Bydd tua 50 o henoed yn cyfarfod am frecwast fory (dydd Iau) mewn menter bwyta'n iach a noddir gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Arolwg Yn Datgelu Bod Dwr Yn Cael Ei Ychwanegu I Gyw Iâr Bwytai A Siopau Tecawe
Efallai fod rhai bwytai a siopau tecawe yn gwerthu cyw iâr i'w cwsmeriaid sy'n cynnwys 54% yn unig o gyw iâr, er gwaethaf label sy'n honni cynnwys cig uwch, yn ôl cyd-ymchwiliad i gyw iâr a werthir i'r fasnach arlwyo a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a 22 awdurdod lleol ledled y DU. Mae'r arolwg hefyd yn datgelu bod 35 o'r 68 sampl wedi'u camlabelu.
Diogelwch Bwyd Ar Yr Agenda
Gwahodd defnyddwyr i gyfarfod agored Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr ASB yng Nghaerdydd
Asiantaeth Safonau Bwyd Yn Ymgynghori Ar Gynllun Iaith Gymwaeg Drafft
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg sy'n nodi sut y mae'n bwriadu darparu ei gwasanaethau'n y Gymraeg. Gwahoddir sylwadau gan siaradwyr Cymraeg ac eraill a allai gael eu heffeithio gan y Cynllun.
Yr Asb Yn Gofyn I Blant Fod Yn Sêr Sebon
Bydd ysgolion cynradd ledled Cymru yn mynd ati i 'lanhau' yr wythnos nesaf wrth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ddosbarthu 10,000 bar o sebon mewn ymgais i annog disgyblion i fabwysiadu agwedd iach tuag at olchi dwylo.
Disgyblion Ysgolion Uwchradd Yn Cael Rhywbeth I Gnoi Cil Arno
Bydd disgyblion ysgolion uwchradd ledled Cymru yn gallu archwilio gwahanol gysyniadau bwyd da, bwyta'n iach a maethiad trwy ddefnyddio CD-ROM newydd sy'n cael ei dosbarthu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Salmonela Mewn Cywion Ieir I'w Gwerthu Yn Gostwng I'r Lefel Isaf Erioed, Ond Y Frwydr Yn Erbyn Campylobacter Yn Parhau
Mae nifer y cywion ieir sydd wedi'u heintio gan Salmonela ar silffoedd siopau yng Nghymru a ledled y DU wedi gostwng i'r lefel isaf a gofnodwyd erioed - gan fodloni targed ar gyfer gostwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd ymhell cyn y disgwyl, yn ôl ffigyrau gafodd eu rhyddhau heddiw.
Labelu Bwyd A Maethiad Ar Yr Agenda Yng Nghasnewydd
Bydd labelu bwyd a maethiad ar yr agenda fis nesaf wrth i Bwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd gynnal cyfarfod agored yng Nghasnewydd.
Hwyl Y Panto Yn Yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd Sinderela a'i Chwaer Hyll yn arwain y frwydr yn erbyn salmonela, listeria a gwenwyn bwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf mewn ymgais i hyrwyddo dealltwriaeth o ddiogelwch bwyd.
Grantiau Bwyta'n Iach Ar Gael I Grwpiau Gwirfoddol I Bobl Dros 65 Oed
Gwahoddir grwpiau cymuned a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed i wneud cais am arian gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. Mae 20 grant o £500 ar gael ar gyfer digwyddiadau neu fentrau unigol sy'n canolbwyntio ar fwyta'n iach.
Gwarchodwyr Bwyd I Weithredu Ar Labeli Camarweiniol
Mae defnyddwyr yn cael eu camarwain gan ddisgrifiadau diystyr megis 'country style' a defnydd aneglur o dermau fel 'ffres', 'traddodiadol' a 'gwnaed gartref' ar rai labeli bwyd, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan bwyllgor ymgynghorol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Taflen Diogelwch Cig Eidion I Siopwyr
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd a Chymdeithas y Defnyddwyr wedi cynhyrchu arweiniad defnyddiol, rhad ac am ddim ar ddiogelwch cig eidion a BSE i siopwyr. Mae 'BSE a Chig Eidion' yn hysbysu defnyddwyr o'r hyn sy'n cael ei wneud i'w hamddiffyn rhag yr haint ac ystyr y gwahanol labeli a welir ar gig.
Galw Cynnyrch Olew Olewydd/Soeg Afalau Sbaenaidd Yn ôl
Heddiw, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyngor newydd i'r diwydiant ynghylch cynnyrch bwyd a all gynnwys olew olewydd/soeg afalau halogedig o Sbaen.
Archwilio Awdurdod Lleol I Godi Safonau Diogelwch Bwyd
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cwblhau archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith bwyd Cyngor Sir Caerdydd. Bydd yr archwiliad, y cyntaf mewn rhaglen dreigl dair blynedd i Gymru gyfan, yn caniatâu i'r Asiantaeth gymharu perfformiad yr awdurdod â safon DU-gyfan a gyflwynwyd ym mis Ebrill eleni.
Yr Adroddiad Cyntaf Ar Ddeuocsin Ger Coelcerthi
Mae bron i bob un o ganlyniadau'r profion pellach a gynhaliwyd i ddeuocsin a PCB mewn bwydydd ger coelcerthi dethol yn y DU o fewn yr ystod disgwyliedig ac maent ar y cyfan yn rhoi darlun calonogol ar hyn o bryd, meddai adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Canlyniadau Profion Deuocsin A PCB Cychwynnol Yn Foddhaol Ar Y Cyfan: Archwiliad Pellarch Ar Un Fferm Ym Môn
Mae canlyniadau cychwynnol profion deuocsin a PCB a gynhaliwyd ar wyau, llaeth o wahanol ffynonellau, porfa a phridd o ffermydd ger coelcerthi dethol Clwy'r Traed a'r Genau o fewn yr ystod disgwyliedig ac nid ydynt yn peri pryder, meddai'r Asiantaeth Safonau Bwyd heddiw.
Hwyl Panto Diogelwch Bwyd Ysgol Tremorfa
Mae plant Ysgol Gynradd Babyddol Sant Alban, Tremorfa, Caerdydd wedi bod yn dysgu ynglyn â hylendid bwyd da, diolch i banto cegin ddoniol Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Peidiwch Cyfaddawdu Ar Ddiogeiwch Bwyd Yn Y Cartref, Meddai'r Asiantaeth Safonau Bwyd
Wrth fentro ar ddyddiadau 'defnyddiwch erbyn', storio bwyd yn anghywir yn yr oergell, methu cymryd camau digonol i osgoi halogiad wrth baratoi bwyd a pheidio coginio bwydydd yn ddigon trylwyr yn y cartref, gallech ddioddef salwch yn deillio o fwyd, meddai Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Rhywbeth Ar Gyfer Pawb Yn Ystod Wythnos Diogelwch Bwyd
Cyn hir, bydd salmonela, hylendid bwyd, swigod a sleim yn cael eu cynnig mewn nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd - ond dim ond er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth o ddiogelwch bwyd. Bydd cymeriadau pantomeim y Gegin Ddoniol, 'Sal' a 'Giene' yn helpu plant i ddeall egwyddorion sylfaenol hylendid bwyd yn ystod cyfres o ddigwyddiadau i gydredeg ag Wythnos Diogelwch Bwyd (11-17 Mehefin.)
Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Yr Asiantaeth Safonau Bwyd I Gwrdd Yn Llandrindod
Bydd Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal cyfarfod agored yn Llandrindod yr wythnos nesaf, a bydd croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch bwyd, maethiad a salwch yn deillio o fwyd fynychu. Mae'r cyfarfod yn dechrau am 10am yng Nghanolfan Gynadledda'r Pafiliwn ddydd Mercher nesaf, 6 Mehefin.
Cyngor Newydd Ar Laeth Anifeillaid Sy'n Pori Gerllaw Coelcerthi
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd eisoes wedi cyhoeddi cyngor ynglyn â goblygiadau deuocsin a gynhyrchir gan goelcerthi mewn perthynas â diogelwch bwyd. Heddiw (dydd Gwener), cyhoeddodd yr Asiantaeth wybodaeth newydd i grwpiau penodol o ddefnyddwyr a ffermwyr llaeth gan roi'r cyngor diweddaraf iddynt ar laeth o anifeiliaid yn pori gerllaw coelcerthi.
Gwenwyn Bwyd Sy'n Gysylltiedig  Bwyta Yn Yr Awyr Agored
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn rhybuddio pobl sy'n mynd ar bicnics ac yn cynnal barbeciws eu bod nhw'n llawer mwy tebygol o gael gwenwyn bwyd o ddiwedd mis Mai. Mae hyn yn cyd-fynd â chynnydd mewn bwyta yn yr awyr agored, newidiadau mewn arferion bwyta ar gyfer yr haf a dechrau tymor y gwyliau.
Rhybuddio Cigyddion Cymru O Ddyddiad Terfynol Trwyddedu
Mae amser gwneud cais am drwydded cigydd yn prinhau ar gyfer cigyddion, groseriaid, archfarchnadoedd a siopau eraill yng Nghymru sy'n gwerthu cig amrwd a bwydydd parod.
Yr Asianeth Yn Archwilio Agweddau Defnyddwyr Cymru At Fwyd
Llai na blwyddyn ar ôl ei lansio, mae Asiantaeth Safonau Bwyd y DU wedi cwblhau ymchwiliad eang i agweddau'r cyhoedd at ddiogelwch bwyd, siopa a diet.
Ateb I'ch Cwestiynau......
Bydd defnyddwyr a mudiadau sydd â diddordeb yn cael y cyfle i wyntyllu barn a holi cwestiynau ynglyn â materion yn ymwneud â bwyd i'r Asiantaeth Safonau Bwyd yr wythnos nesaf, pan fydd yr asiantaeth yn cynnal fforwm agored yn Sioe Frenhinol Cymru.
Adroddiad Cryno Ar Y Fenter Labelu Bwyd Gwell
Heddiw, croesawodd Jane Hutt AC, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn crynhoi casgliadau cychwynnol y Fenter Labelu Bwyd Gwell, a lansiwyd gan Ysgrifennydd Bwyd MAFF y Farwnes Hayman ym mis Ionawr y llynedd.
T-Saff A'r Criw Gwiw Yn Helpu Plant I Ymladd Gwenwyn Bwyd
Mae'r arwyr gwrol T-Saff a'r Criw Gwiw yn llamu i'r bwlch heddiw mewn pecyn addysgu newydd sbon ar gyfer plant ysgolion cynradd yng Nghymru.
