Catalog Adnoddau Newydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Tuesday 1 April 2008
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi catalog adnoddau dwyieithog newydd, sy’n rhestru holl gyhoeddiadau a deunyddiau addysgol yr Asiantaeth, sydd ar gael i unrhyw un sy’n gweithio gyda bwyd neu sydd â diddordeb yn y maes.
Mae’r catalog wedi’i rannu’n adrannau ar gyfer unigolion sy’n hybu bwyd iach a diogel i bawb; pobl sy’n gweithio mewn addysg gynradd, uwchradd ac uwch; ffermwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gweithwyr cymunedol a busnesau bwyd, gan gynnwys arlwywyr.
Mae fersiwn electronig o’r catalog ar gael i’w lawrlwytho isod.
Fel arall, gallwch archebu copïau caled o’r catalog fel a ganlyn:
E-bost: wales@foodstandards.gsi.gov.uk
Ffôn: 029 2067 8999
