Ein ffordd o Weithio
Mae'r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddeiet, maeth a diogelwch bwyd o'r fferm i'r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol.
Yr hyn a wnawn:
Fel un o adrannau'r Llywodraeth, corff rheoleiddio annibynnol a chorff diogelu defnyddwyr, rydym yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn gweithio gyda:
- busnesau, o'r fferm i'r fforc, er mwyn eu helpu i gadw defnyddwyr yn ddiogel
- awdurdodau lleol a chyrff gorfodi cyfraith bwyd eraill er mwyn eu helpu i gymryd camau cymesur, amserol a phenderfynol
- defnyddwyr i roi gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol er mwyn eu helpu i wneud dewisiadau iach am fwyd
Ein gwerthoedd:
Mae popeth a wnawn yn adlewyrchu ein gweledigaeth o ‘fwyd diogel a bwyta'n iach i bawb’
- rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf
- bod yn agored ac yn annibynnol
- yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth
Ein hegwyddorion ar waith:
Fel sefydliad, cyflogwr ac fel unigolion, rydym yn gwerthfawrogi:
- gonestrwydd, gwrthrychedd ac uniondeb
- herio ar gyfer gwelliant parhaus, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- amrywiaeth, cydweithredu a pharch
Sut mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn annibynnol?
Er bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn un o asiantaethau'r Llywodraeth, mae'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth gan nad yw'n atebol i weinidog penodol ac mae'n rhydd i gyhoeddi unrhyw gyngor mae'n ei roi.
Sut mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi'i strwythuro?
Arweinir yr Asiantaeth gan Fwrdd a benodwyd i weithredu er budd y cyhoedd ac nid i gynrychioli sectorau penodol. Mae gan aelodau'r Bwrdd ystod eang o sgiliau a phrofiad perthnasol.
Mae ein pencadlys yn y DU yn Llundain, ond mae gan yr Asiantaeth swyddfeydd cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd. Mae'r Gwasanaeth Hylendid Cig (MHS) yn un o Asiantaethau Gweithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
I bwy mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn atebol?
Rydym yn atebol i'r Senedd drwy Weinidogion Iechyd, ac i'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am ein gweithgareddau yn eu hardaloedd.
Sut mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gwneud ei phenderfyniadau?
Rydym yn seilio'n penderfyniadau a'n cyngor ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Ein nod yw sicrhau bod ein proses gwneud penderfyniadau mor agored a thryloyw â phosibl. Lle y bo'n bosibl, ceisiwn farn partïon sydd â diddordeb cyn dod i gasgliadau, ac eglurwn y rhesymau dros ein penderfyniadau a'n cyngor mewn ffordd syml bob amser. Mae'r Asiantaeth yn cael cyngor annibynnol arbenigol gan ei phwyllgorau cynghori gwyddonol ac mae'n comisiynu gwaith ymchwil i gefnogi ei swyddogaethau.
Nodau strategol
Nodau allweddol ein cynllun strategol ar gyfer 2005-2010 yw:
- parhau i leihau achosion o salwch a gludir gan fwyd
- lleihau'r risgiau i ddefnyddwyr o halogi cemegol yn cynnwys halogi bwyd yn radiolegol
- ei gwneud yn haws i bob defnyddiwr ddewis deiet iach, a thrwy hynny, wella ansawdd bywyd drwy leihau clefydau sy'n gysylltiedig â deiet
- galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau hyddysg
Find out more
Cod ymarfer ar weithredu'n agored
Mae gweithredu'n agored yn un o egwyddorion sylfaenol yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio iaith glir ac yn cyfathrebu'n brydlon, byddwn yn esbonio'r rhesymau am ein penderfyniadau a'n cyngor, a byddwn yn cyhoeddi ein targedau a'n cyflawniadau yn eu herbyn.
Cynllun Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r Cynllun Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu yr ASB. Ni fwriedir iddo fod yn arweiniad diamod ar gyfer staff. Bydd cyfarwyddyd ar wahân yn cael ei gynhyrchu, yn amlinellu beth sy'n rhaid i staff ei wneud i sicrhau eu bod y bodloni gofynion y Ddeddf newydd.
Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl
Mae'r ASB wedi gwella'i Chynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl. Ma'’r fersiwn ddiwygiedig yn disgrifio sut yr ydym yn bwriadu gwneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl hyd at ddiwedd 2009.
Ein safonau
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella gwasanaethau cyhoeddus a'u gwneud yn fwy ymatebol i'w defnyddwyr. Mae'r safonau hyn yn amlinellu lefel y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Diogelu buddiannau'r defnyddiwr
Pwyllgor gwarchod annibynnol ar faterion diogelwch bwyd yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a sefydlwyd gan Ddeddf Senedd San Steffan yn 2000 i ddiogelu buddiannau defnyddwyr a iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd.
