Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Ein nod yw cael ein hystyried fel ffynhonnell fwyaf dibynadwy Cymru o gyngor a gwybodaeth am fwyd.
Amdanom ni
Mae ein cylch dylanwad yn ymwneud â'r broses 'o'r fferm i'r fforc' - hynny yw, o'r man lle caiff y bwyd ei dyfu neu ei weithgynhyrchu tan y bydd yn cyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, y defnyddiwr yng Nghymru, yn gyntaf.
Mae gan 40 aelod o staff Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ystod eang o arbenigedd proffesiynol ac ym maes polisi. Mae ein swyddfa wedi'i lleoli yng nghanol Caerdydd, ac o'r fan hon, rydym yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau a oedd gynt yn ran o ddyletswyddau staff iechyd cyhoeddus ac amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ym 1999, cafodd pwerau dros ddiogelwch a safonau bwyd eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol a, thrwy'r Gweinidogion Iechyd, i'r Senedd. Mae'n fanteisiol gweithio yng nghyd-destun datganoli, am ei bod yn golygu y gallwn ystyried anghenion a materion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, tra'n parhau i sicrhau cysondeb ledled y DU yn y ffordd o fynd i'r afael â diogelwch bwyd, nad yw, wrth gwrs, yn cydnabod ffiniau gwleidyddol na daearyddol.
Bydd yr Asiantaeth yn diogelu buddiannau defnyddwyr o Gymru drwy ddilyn tri gwerth craidd. Bydd yn rhoi'r defnyddwyr yn gyntaf, bydd yn gweithredu'n agored ac yn hygyrch, a bydd yn llais annibynnol. Rydym yn gwneud ein gwaith mewn ffordd agored, ac mae'r penderfyniadau a wnawn yn agored ac yn dryloyw.
Ymhlith meysydd gwaith allweddol yr Asiantaeth yng Nghymru mae:
- Maeth - rhoi cyngor i'r cyhoedd, y Cynulliad Cenedlaethol ac eraill ar faeth a deiet, gan gydweithio â'r Cynulliad mewn meysydd o rannu cyfrifoldeb;
- Diogelu defnyddwyr - drwy orfodaeth a monitro effeithiol, gan gydweithio'n agos ag Awdurdodau Lleol Cymru;
- Lleihau salwch a gludir gan fwyd - gweithio â diwydiannau a gorfodwyr i leihau halogiad, a hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddulliau diogel o drin bwyd;
- Sicrhau diogelwch bwyd - er enghraifft, drwy gyfrannu at weithredoedd yn y DU i sicrhau nad yw cemegion yn peryglu diogelwch bwyd, a bod rheoliadau BSE wedi'u gorfodi'n llawn;
- Cefnogi dewis i ddefnyddwyr - drwy labelu cywir ac ystyrlon nad yw'n camarwain a thrwy sicrhau bod gwybodaeth am faterion yn ymwneud â diogelwch bwyd, canlyniadau arolygon a gweithgaredd gorfodi ar gael i'r cyhoedd.
Caiff ein gwaith ei oruchwylio gan Bwyllgor Cynghori'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Sefydlwyd y Pwyllgor i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth yng Nghymru, a'r cadeirydd yw John Spence, sydd hefyd yn aelod Cymru o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae cyfarfodydd pwyllgor agored, a gynhelir bob hyn a hyn o fisoedd mewn lleoliadau ledled y wlad, yn enghraifft o ymrwymiad Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i dryloywder.
Find out more
ASB Cymru
Lansiwyd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ym mis Ebrill 2000. Ein nod yw bod yn ffynhonnell ddibynadwy o gyngor a gwybodaeth am fwyd yng Nghymru. Mae ein cylch dylanwad yn ymestyn o'r 'fferm i'r fforc' - mewn geiriau eraill, o'r pwynt lle mae'r bwyd yn cael ei dyfu neu'i weithgynhyrchu i'r adeg pan mae'n cyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, ddefnyddwyr Cymru, yn gyntaf.
Canlyniadau Monitro Pysgod Cregyn
Gwenwyno Diarëig Pysgod Cregyn
Cod ymarfer ar weithredu'n agored
Mae gweithredu'n agored yn un o egwyddorion sylfaenol yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio iaith glir ac yn cyfathrebu'n brydlon, byddwn yn esbonio'r rhesymau am ein penderfyniadau a'n cyngor, a byddwn yn cyhoeddi ein targedau a'n cyflawniadau yn eu herbyn.
Cyhoeddiadau Cymraeg
Cyhoeddiadau Cymraeg
Cynllun Iaith Gymraeg (2002 – 2007)
Mae'r Cynllun hwn, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn sbardun pellach i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gryfhau ei hymrwymiad i roi defnyddwyr yn gyntaf.
Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Datganiadau i'r wasg
Fersiynau Cymraeg o ddataganiadau ASB Cymru i'r wasg
Monitro a Rheoli Ôl-Chernobyl: Cymru
Yn dilyn damwain Chernobyl ym 1986, gosodwyd, o dan Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985, gyfyngiadau ar symud, gwerthu a chyflenwi defaid yn yr ardaloedd hynny o'r Deyrnas Unedig lle y gallai lefelau'r llygru mewn cig defaid beri risg i iechyd y cyhoedd.
Newyddion
Newyddion yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
O dan dermau'r ddeddfwriaeth, sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth ar faterion sy'n ymwneud â'i swyddogaethau yng Nghymru. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Cynghori wrth gyflawni ei swyddogaethau neu gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion.
Rheoliadau
Offerynnau statudol yn ymwneud â Chymru yn y Gymraeg
Trelar adnoddau ASB Cymru
Nod trelar adnoddau ASB Cymru yw codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyta'n iach, gyda phwyslais ar blant ysgol a grwpiau sy'n agored i niwed yn y gymuned.
Ymgynghori
Fersiynau Cymraeg o ddogfennau ymgynghori
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Diogelu buddiannau'r defnyddiwr
Pwyllgor gwarchod annibynnol ar faterion diogelwch bwyd yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a sefydlwyd gan Ddeddf Senedd San Steffan yn 2000 i ddiogelu buddiannau defnyddwyr a iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd.
